Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan,

10. lle mae'r mur allanol yn cychwyn.Tua'r de, gyferbyn â'r cwrt a chyferbyn â'r adeilad, yr oedd ystafelloedd,

11. gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd

12. yn debyg i ddrysau'r ystafelloedd yn y de. Ar ben y llwybr, yr oedd drws yn y mur mewnol i gyfeiriad y dwyrain, er mwyn dod i mewn.

13. Yna dywedodd wrthyf, “Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw.

14. Pan fydd yr offeiriaid wedi dod i mewn i'r cysegr, nid ydynt i fynd allan i'r cyntedd nesaf allan heb adael ar ôl y gwisgoedd a oedd ganddynt wrth wasanaethu, oherwydd y maent yn sanctaidd. Y maent i wisgo dillad eraill i fynd allan lle mae'r bobl.”

15. Wedi iddo orffen mesur oddi mewn i safle'r deml, aeth â mi allan trwy'r porth oedd i gyfeiriad y dwyrain, a mesur yr hyn oedd oddi amgylch.

16. Mesurodd ochr y dwyrain â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

17. Mesurodd ochr y gogledd â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

18. Mesurodd ochr y de â'r ffon fesur, a chael y mesur yn bum can cufydd.

19. Aeth drosodd i ochr y gorllewin, a mesurodd â'r ffon fesur bum can cufydd.

20. Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42