Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn â phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr.

4. O flaen yr ystafelloedd yr oedd llwybr caeedig, deg cufydd o led a chan cufydd o hyd. Yr oedd eu drysau tua'r gogledd.

5. Yr oedd yr ystafelloedd uchaf yn gulach, gan fod yr orielau yn tynnu mwy oddi arnynt hwy nag oddi ar yr ystafelloedd ar loriau isaf a chanol yr adeilad.

6. Nid oedd colofnau i ystafelloedd y trydydd llawr, fel yn y cynteddau, ac felly yr oedd eu lloriau'n llai na rhai'r lloriau isaf a chanol.

7. Yr oedd y mur y tu allan yn gyfochrog â'r ystafelloedd, a chyferbyn â hwy, ac yn ymestyn i gyfeiriad y cyntedd nesaf allan; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd.

8. Yr oedd y rhes ystafelloedd ar yr ochr nesaf at y cyntedd allanol yn hanner can cufydd o hyd, a'r rhai ar yr ochr nesaf i'r cysegr yn gan cufydd.

9. Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan,

10. lle mae'r mur allanol yn cychwyn.Tua'r de, gyferbyn â'r cwrt a chyferbyn â'r adeilad, yr oedd ystafelloedd,

11. gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd

12. yn debyg i ddrysau'r ystafelloedd yn y de. Ar ben y llwybr, yr oedd drws yn y mur mewnol i gyfeiriad y dwyrain, er mwyn dod i mewn.

13. Yna dywedodd wrthyf, “Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42