Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Mesurodd ochr y dwyrain â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

17. Mesurodd ochr y gogledd â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.

18. Mesurodd ochr y de â'r ffon fesur, a chael y mesur yn bum can cufydd.

19. Aeth drosodd i ochr y gorllewin, a mesurodd â'r ffon fesur bum can cufydd.

20. Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42