Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth y dyn â mi allan tua'r gogledd i'r cyntedd nesaf allan, ac arweiniodd fi i'r ystafelloedd oedd gyferbyn â chwrt y deml a'r adeilad tua'r gogledd.

2. Hyd yr adeilad â'i ddrws tua'r gogledd oedd can cufydd, a'i led yn hanner can cufydd.

3. Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn â phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr.

4. O flaen yr ystafelloedd yr oedd llwybr caeedig, deg cufydd o led a chan cufydd o hyd. Yr oedd eu drysau tua'r gogledd.

5. Yr oedd yr ystafelloedd uchaf yn gulach, gan fod yr orielau yn tynnu mwy oddi arnynt hwy nag oddi ar yr ystafelloedd ar loriau isaf a chanol yr adeilad.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42