11. Yr oedd dau fynediad o'r lle agored i'r ystafelloedd ochr, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de; ac yr oedd lled y lle agored yn bum cufydd oddi amgylch.
12. Yr oedd yr adeilad a wynebai gwrt y deml ar ochr y gorllewin yn ddeg cufydd a thrigain o led, a mur yr adeilad yn bum cufydd o drwch oddi amgylch, a hyd yr adeilad yn ddeg cufydd a phedwar ugain.
13. Yna mesurodd y deml; yr oedd yn gan cufydd o hyd, ac yr oedd y cwrt a'r adeilad gyda'i furiau hefyd yn gan cufydd o hyd.
14. Yr oedd lled wyneb y deml a'r cwrt ar ochr y dwyrain yn gan cufydd.
15. Yna mesurodd hyd yr adeilad a wynebai'r cwrt yng nghefn y deml, gyda'i orielau bob ochr, ac yr oedd yn gan cufydd.Yr oedd y deml, y cysegr nesaf i mewn a'r cyntedd yn wynebu'r cwrt,
16. yn ogystal â'r rhiniogau, y ffenestri bychain a'r orielau o amgylch y tri ohonynt, sef y cyfan o'r rhiniog ymlaen, wedi eu byrddio â choed; yr oedd y muriau o'r llawr at y ffenestri wedi eu byrddio.
17. Yn y lle uwchben y mynediad i'r cysegr nesaf i mewn, ar y tu allan, a hefyd ar y muriau o amgylch y cysegr mewnol a'r cysegr allanol,
18. yr oedd cerfiadau ar ffurf cerwbiaid a choed palmwydd, sef palmwydd a cherwbiaid bob yn ail. Yr oedd dau wyneb gan bob cerwb,
19. wyneb dyn at y balmwydden ar un ochr, a wyneb llew at y balmwydden ar yr ochr arall. Yr oeddent wedi eu cerfio o amgylch yr holl deml.
20. O'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml.
21. Yr oedd pyst drws y deml yn sgwâr; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg
22. i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, “Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD.”
23. Yr oedd drysau dwbl i'r deml ac i'r cysegr sancteiddiaf;
24. yr oedd dwy ddalen i bob drws, a'r ddwy wedi eu bachu wrth ei gilydd.
25. Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan.