Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:38-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Yng nghyntedd y porth yr oedd ystafell ac iddi ddrws, ac yno y golchid y poethoffrwm.

39. Yng nghyntedd y porth yr oedd hefyd ddau fwrdd o boptu, ac arnynt y lleddid y poethoffrwm, yr offrwm dros bechod a'r offrwm dros gamwedd.

40. Yng nghyntedd nesaf allan y porth, wrth ymyl y grisiau oedd yn arwain i borth y gogledd, yr oedd dau fwrdd, a'r ochr arall i'r grisiau hefyd ddau fwrdd.

41. Yr oedd pedwar o fyrddau ar un ochr i'r porth, a phedwar ar yr ochr arall, wyth i gyd; ac arnynt y lleddid yr aberthau.

42. Yr oedd hefyd bedwar bwrdd o feini nadd ar gyfer y poethoffrwm, pob un yn gufydd a hanner o hyd, yn gufydd a hanner o led ac yn gufydd o uchder; arnynt hwy y rhoddid yr offer ar gyfer lladd y poethoffrwm a'r aberthau eraill.

43. Ar y muriau oddi amgylch yr oedd bachau dwbl, dyrnfedd o hyd; yr oedd y byrddau ar gyfer cig yr offrwm.

44. Y tu allan i'r porth nesaf i mewn, a'r tu mewn i'r cyntedd nesaf i mewn, yr oedd dwy ystafell, un ger porth y gogledd ac yn wynebu'r de, ac un ger porth y de ac yn wynebu'r gogledd.

45. Dywedodd wrthyf, “Y mae'r ystafell sy'n wynebu'r de ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml,

46. ac y mae'r un sy'n wynebu'r gogledd ar gyfer yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor, sef meibion Sadoc, yr unig rai o feibion Lefi sy'n cael dynesu at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu.”

47. Yna mesurodd y cyntedd, ac yr oedd yn sgwâr, yn gan cufydd o hyd ac yn gan cufydd o led; yr oedd yr allor o flaen y deml.

48. Aeth â mi at gyntedd y deml, a mesur pileri'r cyntedd; yr oedd eu trwch yn bum cufydd bob ochr. Yr oedd lled y porth yn bedwar cufydd ar ddeg, a'i furiau yn dri chufydd o led bob ochr.

49. Yr oedd y cyntedd yn ugain cufydd o led, ac yn ddeuddeg cufydd o'r blaen i'r cefn; arweiniai grisiau i fyny ato, ac yr oedd colofnau bob ochr i'r pileri.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40