Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:24-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yna arweiniodd fi at ochr y de, a gwelais borth yn wynebu'r de. Mesurodd ei bileri a'i gyntedd, a'r un oedd eu mesuriadau â'r lleill.

25. Yr oedd ffenestri o amgylch yn y porth ac yn ei gyntedd, fel ffenestri'r lleill. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

26. Arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn â hwy; yr oedd y pileri ar y naill ochr a'r llall wedi eu haddurno â phalmwydd.

27. Yn y cyntedd nesaf i mewn yr oedd porth yn wynebu'r de, a mesurodd o'r porth hwn at y porth nesaf allan ar ochr y de; yr oedd yn gan cufydd.

28. Yna aeth â mi trwy borth y de i'r cyntedd nesaf i mewn, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill.

29. Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

30. Yr oedd cynteddoedd y pyrth o amgylch y cyntedd nesaf i mewn yn bum cufydd ar hugain o led, a phum cufydd o ddyfnder.

31. Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

32. Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf i mewn ar ochr y dwyrain, a mesurodd y porth; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill.

33. Yr oedd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â'r lleill, ac yr oedd ffenestri o amgylch y porth ac yn ei gyntedd. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

34. Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

35. Yna aeth â mi at borth y gogledd, a'i fesur; yr un oedd ei fesuriadau â'r lleill;

36. felly hefyd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd, ac yr oedd ffenestri o'i amgylch. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.

37. Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno â phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40