Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

10. Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta yr un amser bob dydd.

11. A byddi'n yfed dŵr wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed yr un amser bob dydd.

12. Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngŵydd y bobl ar gynnud o garthion dynol.”

13. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel hyn y bydd plant Israel yn bwyta bara halogedig ymysg y cenhedloedd y gyrraf hwy atynt.”

14. Atebais, “O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau.”

15. Yna dywedodd wrthyf, “Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol i grasu dy fara.”

16. Dywedodd hefyd, “Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur.

17. Bydd y fath brinder o fara a dŵr fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4