8. Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.
9. “Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.
10. Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta yr un amser bob dydd.
11. A byddi'n yfed dŵr wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed yr un amser bob dydd.
12. Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngŵydd y bobl ar gynnud o garthion dynol.”
13. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel hyn y bydd plant Israel yn bwyta bara halogedig ymysg y cenhedloedd y gyrraf hwy atynt.”
14. Atebais, “O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau.”