Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia ddrygioni tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

7. Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

8. Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

9. “Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4