Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 39:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “ ‘Yna, bydd y rhai sy'n byw yn ninasoedd Israel yn mynd allan ac yn gwneud tân o'r arfau ac yn eu llosgi—y tarianau bach a mawr, y bwâu a'r saethau, y pastynau a'r gwaywffyn; byddant yn gwneud tân ohonynt am saith mlynedd.

10. Ni fyddant yn casglu cynnud o'r meysydd nac yn torri coed yn y coedwigoedd, gan y byddant yn gwneud tân o'r arfau. Byddant yn ysbeilio'u hysbeilwyr ac yn anrheithio'u hanrheithwyr, medd yr Arglwydd DDUW.

11. “ ‘Y diwrnod hwnnw fe roddaf i Gog feddrod yn Israel, yn nyffryn y rhai sy'n croesi i'r dwyrain at y môr; bydd yn rhwystr i'r rhai sy'n croesi drosodd, oherwydd bydd Gog a'i holl luoedd wedi eu claddu yno, ac fe'i gelwir yn Ddyffryn Hamon Gog.

12. Bydd tŷ Israel yn eu claddu am saith mis, er mwyn glanhau'r wlad.

13. Bydd holl bobl y wlad yn eu claddu, a bydd yn glod iddynt ar y diwrnod y gogoneddir fi, medd yr Arglwydd DDUW.

14. Neilltuir dynion i fynd trwy'r wlad yn gyson i gladdu'r rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, er mwyn ei glanhau; ar derfyn y saith mis byddant yn dechrau chwilio.

15. Wrth iddynt fynd trwy'r wlad, ac i un ohonynt weld asgwrn dynol, bydd hwnnw'n codi arwydd yn ei ymyl nes i'r claddwyr ei gladdu yn Nyffryn Hamon Gog.

16. Bydd yno hefyd dref o'r enw Hamona. Felly y glanheir y wlad.’

17. “Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Galw ar bob math o adar ac ar yr holl anifeiliaid gwylltion, ‘Ymgasglwch a dewch at eich gilydd o bob tu i'r aberth yr wyf yn ei baratoi i chwi, sef yr aberth mawr ar fynyddoedd Israel; a byddwch yn bwyta cnawd ac yn yfed gwaed.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 39