Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 39:18-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Byddwch yn bwyta cnawd y cedyrn ac yn yfed gwaed tywysogion y ddaear, yn union fel pe byddent yn hyrddod ac ŵyn, yn fychod a bustych, pob un ohonynt wedi ei besgi yn Basan.

19. Yn yr aberth yr wyf fi'n ei baratoi i chwi, byddwch yn bwyta braster nes eich digoni ac yn yfed gwaed nes meddwi.

20. Fe'ch digonir wrth fy mwrdd â meirch a marchogion, â chedyrn a phob math o filwyr,’ medd yr Arglwydd DDUW.

21. “Byddaf yn gosod fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a bydd yr holl genhedloedd yn gweld y farn a wneuthum a'r llaw a osodais arnynt.

22. O'r dydd hwnnw ymlaen, bydd tŷ Israel yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.

23. Bydd y cenhedloedd yn gwybod mai am eu drygioni yr aeth tŷ Israel i gaethglud; am iddynt fod yn anffyddlon i mi y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt a'u rhoi yn nwylo'u gelynion nes iddynt i gyd syrthio trwy'r cleddyf.

24. Fe wneuthum â hwy yn ôl eu haflendid a'u troseddau, a chuddiais fy wyneb oddi wrthynt.

25. “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn awr, fe adferaf lwyddiant Jacob a thosturio wrth holl dŷ Israel; a byddaf yn eiddigus o'm henw sanctaidd.

26. Byddant yn anghofio'u gwarth, a'u holl anffyddlondeb tuag ataf fi pan oeddent yn byw'n ddiogel yn eu gwlad heb neb i'w dychryn.

27. Pan ddychwelaf hwy o blith y bobloedd a'u casglu o wledydd eu gelynion, amlygaf fy sancteiddrwydd trwyddynt hwy yng ngŵydd llawer o genhedloedd.

28. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, oherwydd, er imi eu hanfon i gaethglud ymhlith y cenhedloedd, fe'u casglaf ynghyd i'w gwlad heb adael yr un ohonynt ar ôl.

29. Ni chuddiaf fy wyneb oddi wrthynt mwyach, oherwydd byddaf yn tywallt fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 39