Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 39:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Fab dyn, proffwyda yn erbyn Gog a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal.

2. Byddaf yn dy droi ac yn dy lusgo ymlaen; dof â thi o bellterau'r gogledd, a'th anfon yn erbyn mynyddoedd Israel.

3. Yna trawaf dy fwa o'th law chwith a pheri i'th saethau ddisgyn o'th law dde.

4. Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddin a'r bobloedd sydd gyda thi; fe'th rof yn fwyd i bob math o adar ysglyfaethus ac i'r anifeiliaid gwylltion.

5. Byddi'n syrthio yn y maes, oherwydd myfi a lefarodd, medd yr Arglwydd DDUW.

6. Byddaf yn anfon tân ar Magog ac ar y rhai sy'n byw'n ddiogel ar yr arfordir; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

7. “ ‘Gwnaf fy enw sanctaidd yn wybyddus ymhlith fy mhobl Israel, ac ni adawaf i'm henw sanctaidd gael ei halogi mwyach; a bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw Sanct Israel.

8. Y mae'n dod! Bydd yn digwydd, medd yr Arglwydd DDUW. Dyma'r diwrnod y dywedais amdano!

9. “ ‘Yna, bydd y rhai sy'n byw yn ninasoedd Israel yn mynd allan ac yn gwneud tân o'r arfau ac yn eu llosgi—y tarianau bach a mawr, y bwâu a'r saethau, y pastynau a'r gwaywffyn; byddant yn gwneud tân ohonynt am saith mlynedd.

10. Ni fyddant yn casglu cynnud o'r meysydd nac yn torri coed yn y coedwigoedd, gan y byddant yn gwneud tân o'r arfau. Byddant yn ysbeilio'u hysbeilwyr ac yn anrheithio'u hanrheithwyr, medd yr Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 39