Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

16. “Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, ‘I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef’; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, ‘Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.’

17. Una hwy â'i gilydd yn un ffon, fel y dônt yn un yn dy law.

18. Pan ddywed dy bobl, ‘Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?’

19. ateb hwy, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno â hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.’

20. Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37