1. Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth â mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn.
2. Aeth â mi'n ôl a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn.
3. Gofynnodd imi, “Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?” Atebais innau, “O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod.”