Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “ ‘Ond byddwch chwi, fynyddoedd Israel, yn tyfu canghennau ac yn cynhyrchu ffrwyth i'm pobl Israel, oherwydd fe ddônt adref ar fyrder.

9. Wele, yr wyf fi o'ch tu ac yn troi'n ôl atoch; cewch eich aredig a'ch hau,

10. a byddaf yn lluosogi pobl arnoch, sef tŷ Israel i gyd. Fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.

11. Byddaf yn lluosogi pobl ac anifeiliaid arnoch, a byddant yn lluosogi ac yn ffrwythloni; byddaf yn peri i rai fyw arnoch fel o'r blaen, a gwnaf fwy o ddaioni i chwi na chynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

12. Gwnaf i bobl, fy mhobl Israel, gerdded arnoch; byddant yn eich meddiannu, a byddwch yn etifeddiaeth iddynt, ac ni fyddwch byth eto'n eu gwneud yn amddifad.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, “Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant”,

14. felly, ni fyddwch eto'n difa pobl nac yn gwneud eich cenedl yn amddifad, medd yr Arglwydd DDUW.

15. Ni pharaf ichwi eto glywed dirmyg y cenhedloedd, na dioddef gwawd y bobloedd, na gwneud i'ch cenedl gwympo, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

16. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

17. “Fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig.

18. Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi â'u heilunod.

19. Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwâl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn ôl eu ffyrdd a'u gweithredoedd.

20. I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, ‘Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.’

21. Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan dŷ Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36