Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. “Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, dŷ Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd.

23. Amlygaf sancteiddrwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gŵydd.

24. Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain.

25. Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.

26. Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.

27. Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.

28. Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.

29. Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch.

30. Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd.

31. Yna byddwch yn cofio eich ffyrdd drygionus a'r gweithredoedd drwg, a byddwch yn eich casáu eich hunain am eich camweddau a'ch ffieidd-dra.

32. Bydded wybyddus i chwi nad er eich mwyn chwi yr wyf yn gweithredu, medd yr Arglwydd DDUW. Bydded cywilydd a gwarth arnoch am eich ffyrdd, dŷ Israel!

33. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd y glanhaf chwi o'ch holl gamweddau, fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.

34. Caiff y wlad oedd yn ddiffaith ei thrin, rhag iddi fod yn ddiffaith yng ngolwg pawb sy'n mynd heibio.

35. Fe ddywedant, “Aeth y wlad hon, a fu'n ddiffaith, fel gardd Eden, ac y mae'r dinasoedd a fu'n adfeilion, ac yn ddiffeithwch anial, wedi eu cyfanheddu a'u hamddiffyn.”

36. Yna, bydd y cenhedloedd a adawyd o'ch amgylch yn gwybod i mi, yr ARGLWYDD, ailadeiladu'r hyn a ddinistriwyd ac ailblannu'r hyn oedd yn ddiffaith. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, ac fe'i gwnaf.

37. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf eto'n gwrando ar gais tŷ Israel ac yn gwneud hyn iddynt: byddaf yn amlhau eu pobl fel praidd.

38. Mor lluosog â phraidd yr offrwm, mor lluosog â phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion â phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36