Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:11-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Byddaf yn lluosogi pobl ac anifeiliaid arnoch, a byddant yn lluosogi ac yn ffrwythloni; byddaf yn peri i rai fyw arnoch fel o'r blaen, a gwnaf fwy o ddaioni i chwi na chynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

12. Gwnaf i bobl, fy mhobl Israel, gerdded arnoch; byddant yn eich meddiannu, a byddwch yn etifeddiaeth iddynt, ac ni fyddwch byth eto'n eu gwneud yn amddifad.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, “Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant”,

14. felly, ni fyddwch eto'n difa pobl nac yn gwneud eich cenedl yn amddifad, medd yr Arglwydd DDUW.

15. Ni pharaf ichwi eto glywed dirmyg y cenhedloedd, na dioddef gwawd y bobloedd, na gwneud i'ch cenedl gwympo, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

16. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

17. “Fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig.

18. Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi â'u heilunod.

19. Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwâl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn ôl eu ffyrdd a'u gweithredoedd.

20. I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, ‘Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.’

21. Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan dŷ Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.

22. “Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, dŷ Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd.

23. Amlygaf sancteiddrwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gŵydd.

24. Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain.

25. Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.

26. Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.

27. Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.

28. Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.

29. Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch.

30. Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd.

31. Yna byddwch yn cofio eich ffyrdd drygionus a'r gweithredoedd drwg, a byddwch yn eich casáu eich hunain am eich camweddau a'ch ffieidd-dra.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36