Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 35:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Mynydd Seir; proffwyda yn ei erbyn

3. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn, Fynydd Seir; estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th wneud yn ddiffeithwch anial.

4. Gwnaf dy ddinasoedd yn adfeilion a byddi dithau'n ddiffaith; yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

5. Oherwydd iti goleddu hen elyniaeth a darostwng pobl Israel i'r cleddyf yn nydd eu trallod, yn nydd eu cosb derfynol,

6. felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, fe'th ddedfrydaf i waed, a bydd gwaed yn dy ymlid; am na chaseaist ti waed, gwaed fydd yn dy ymlid.

7. Gwnaf Fynydd Seir yn ddiffeithwch anial, a thorraf ymaith oddi yno bawb sy'n mynd a dod.

8. Llanwaf dy fynyddoedd â chelaneddau; bydd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn syrthio ar dy fryniau, yn dy ddyffrynnoedd ac yn dy holl nentydd.

9. Gwnaf di yn ddiffeithwch am byth, ac ni fydd neb yn byw yn dy ddinasoedd. Yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 35