Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Bydd coed y maes yn rhoi eu ffrwyth, a'r tir ei gnydau, a bydd y bobl yn ddiogel yn eu gwlad. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn torri barrau eu hiau ac yn eu gwaredu o ddwylo'r rhai sy'n eu caethiwo.

28. Ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth i'r cenhedloedd, ac ni fydd anifeiliaid gwylltion yn eu difa; byddant yn byw'n ddiogel heb neb i'w dychryn.

29. Byddaf yn darparu iddynt blanhigfa ffrwythlon, ac ni fyddant mwyach yn dioddef newyn yn y wlad na dirmyg y cenhedloedd.

30. Yna byddant yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda hwy, ac mai hwy, tŷ Israel, yw fy mhobl, medd yr Arglwydd DDUW.

31. Chwi fy mhraidd, praidd fy mhorfa, yw fy mhobl, a myfi yw eich Duw, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34