Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:20-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrthynt: Byddaf fi fy hunan yn barnu rhwng defaid bras a defaid tenau.

21. Oherwydd eich bod yn gwthio ag ystlys ac ysgwydd, ac yn twlcio'r gweiniaid â'ch cyrn nes ichwi eu gyrru ar wasgar,

22. byddaf yn gwaredu fy mhraidd, ac ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth, a byddaf yn barnu rhwng y naill ddafad a'r llall.

23. Byddaf yn gosod arnynt un bugail, fy ngwas Dafydd, a bydd ef yn gofalu amdanynt; ef fydd yn gofalu amdanynt ac ef fydd eu bugail.

24. Myfi, yr ARGLWYDD, fydd eu Duw, a'm gwas Dafydd fydd yn dywysog yn eu mysg; myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.

25. “ ‘Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, a pheri i fwystfilod gwylltion ddarfod o'r wlad; yna byddant yn byw yn yr anialwch ac yn cysgu yn y coedwigoedd mewn diogelwch.

26. Gwnaf hwy, a'r mannau o amgylch fy mynyddoedd, yn fendith; anfonaf i lawr y cawodydd yn eu pryd, a byddant yn gawodydd bendith.

27. Bydd coed y maes yn rhoi eu ffrwyth, a'r tir ei gnydau, a bydd y bobl yn ddiogel yn eu gwlad. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn torri barrau eu hiau ac yn eu gwaredu o ddwylo'r rhai sy'n eu caethiwo.

28. Ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth i'r cenhedloedd, ac ni fydd anifeiliaid gwylltion yn eu difa; byddant yn byw'n ddiogel heb neb i'w dychryn.

29. Byddaf yn darparu iddynt blanhigfa ffrwythlon, ac ni fyddant mwyach yn dioddef newyn yn y wlad na dirmyg y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34