Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae fugeiliaid Israel, nad ydynt yn gofalu ond amdanynt eu hunain! Oni ddylai'r bugeiliaid ofalu am y praidd?

3. Yr ydych yn bwyta'r braster, yn gwisgo'r gwlân, yn lladd y pasgedig, ond nid ydych yn gofalu am y praidd.

4. Nid ydych wedi cryfhau'r ddafad wan na gwella'r glaf na rhwymo'r ddolurus; ni ddaethoch â'r grwydredig yn ôl, na chwilio am y golledig; buoch yn eu rheoli'n galed ac yn greulon.

5. Fe'u gwasgarwyd am eu bod heb fugail, ac yna aethant yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34