Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed.

5. Oherwydd iddo glywed sain yr utgorn a pheidio â derbyn rhybudd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed; pe byddai wedi derbyn rhybudd, byddai wedi arbed ei fywyd.

6. Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio â chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.’

7. “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33