Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. “Amdanat ti, fab dyn, y mae dy bobl yn siarad ger y muriau ac wrth ddrysau'r tai, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando beth yw'r gair a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.’

31. Fe ddaw fy mhobl yn ôl eu harfer, ac eistedd o'th flaen a gwrando ar dy eiriau, ond ni fyddant yn eu gwneud. Y mae geiriau serchog yn eu genau, ond eu calon yn eu harwain ar ôl elw.

32. Yn wir, nid wyt ti iddynt hwy ond un yn canu caneuon serch mewn llais peraidd ac yn chwarae offeryn yn dda, oherwydd y maent yn gwrando ar dy eiriau ond heb eu gwneud.

33. Pan ddigwydd hyn, ac y mae hynny'n sicr, byddant yn gwybod i broffwyd fod yn eu mysg.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33