Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:24-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “Fab dyn, y mae'r rhai sy'n byw yn yr adfeilion yna yng ngwlad Israel yn dweud, ‘Un dyn oedd Abraham, ac fe feddiannodd y wlad; ond yr ydym ni'n llawer, ac yn sicr y mae'r wlad wedi ei rhoi'n feddiant i ni.’

25. Felly, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr ydych yn bwyta cig gyda'r gwaed, yn codi eich golygon at eich eilunod, ac yn tywallt gwaed; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?

26. Yr ydych yn dibynnu ar eich cleddyf, yn gwneud ffieidd-dra, a phob un ohonoch yn halogi gwraig ei gymydog; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?’

27. Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired â'm bod yn fyw, bydd y rhai a adawyd yn yr adfeilion yn syrthio trwy'r cleddyf, y sawl sydd allan yn y wlad yn cael ei roi i'r anifeiliaid gwylltion i'w ddifa, a'r rhai sydd mewn amddiffynfeydd ac ogofeydd yn marw o bla.

28. Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch anial, a bydd diwedd ar ei rym balch; bydd mynyddoedd Israel mor ddiffaith fel na fydd neb yn eu croesi.

29. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf wedi gwneud y wlad yn ddiffeithwch anial oherwydd yr holl ffieidd-dra a wnaethant.’

30. “Amdanat ti, fab dyn, y mae dy bobl yn siarad ger y muriau ac wrth ddrysau'r tai, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando beth yw'r gair a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.’

31. Fe ddaw fy mhobl yn ôl eu harfer, ac eistedd o'th flaen a gwrando ar dy eiriau, ond ni fyddant yn eu gwneud. Y mae geiriau serchog yn eu genau, ond eu calon yn eu harwain ar ôl elw.

32. Yn wir, nid wyt ti iddynt hwy ond un yn canu caneuon serch mewn llais peraidd ac yn chwarae offeryn yn dda, oherwydd y maent yn gwrando ar dy eiriau ond heb eu gwneud.

33. Pan ddigwydd hyn, ac y mae hynny'n sicr, byddant yn gwybod i broffwyd fod yn eu mysg.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33