Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “Fab dyn, dywed wrth dŷ Israel, ‘Dyma a ddywedwch: “Y mae ein troseddau a'n pechodau yn fwrn arnom, ac yr ydym yn darfod o'u plegid; sut y byddwn fyw?’ ”

11. Dywed wrthynt, ‘Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond yn hytrach ei fod yn troi o'i ffordd ac yn byw. Trowch, trowch o'ch ffyrdd drwg! Pam y byddwch farw, O dŷ Israel?’

12. “Fab dyn, dywed wrth dy bobl, ‘Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.’

13. Os dywedaf wrth y cyfiawn y bydd yn sicr o fyw, ac yntau wedyn yn ymddiried yn ei gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, ni chofir yr un o'i weithredoedd cyfiawn; bydd farw am y drygioni a wnaeth.

14. Ac os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, ac yntau'n troi oddi wrth ei ddrygioni ac yn gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn,

15. yn dychwelyd gwystl, yn adfer yr hyn a ladrataodd, yn dilyn rheolau'r bywyd ac yn ymatal rhag drwg, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

16. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i bechodau; gwnaeth yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a bydd yn sicr o fyw.

17. “Eto fe ddywed dy bobl, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’; ond eu ffordd hwy sy'n anghyfiawn.

18. Os try un cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder a gwneud drwg, bydd farw am hynny.

19. Os try un drygionus oddi wrth ei ddrygioni a gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, bydd fyw am hynny.

20. Eto fe ddywedwch, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn’! O dŷ Israel, fe farnaf bob un ohonoch yn ôl ei ffyrdd.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33