Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, llefara wrth dy bobl a dweud wrthynt, ‘Bwriwch fy mod yn anfon cleddyf yn erbyn gwlad, a phobl y wlad yn dewis un gŵr o'u plith i fod yn wyliwr iddynt,

3. ac yntau'n gweld y cleddyf yn dod yn erbyn y wlad ac yn canu utgorn i rybuddio'r bobl;

4. yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33