Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, llefara wrth dy bobl a dweud wrthynt, ‘Bwriwch fy mod yn anfon cleddyf yn erbyn gwlad, a phobl y wlad yn dewis un gŵr o'u plith i fod yn wyliwr iddynt,

3. ac yntau'n gweld y cleddyf yn dod yn erbyn y wlad ac yn canu utgorn i rybuddio'r bobl;

4. yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed.

5. Oherwydd iddo glywed sain yr utgorn a pheidio â derbyn rhybudd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed; pe byddai wedi derbyn rhybudd, byddai wedi arbed ei fywyd.

6. Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio â chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.’

7. “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

8. Os dywedaf fi wrth y drygionus, ‘O ddrygionus, byddi'n sicr o farw’, a thithau'n peidio â llefaru i'w rybuddio i droi o'i ffordd, yna, er i'r drygionus farw am ei ddrygioni, byddaf yn dy ddal di'n gyfrifol am ei waed.

9. Ond os byddi'n rhybuddio'r drygionus i droi o'i ffordd, ac yntau'n gwrthod, fe fydd farw am ei ddrygioni, ond fe fyddi di'n arbed dy fywyd.

10. “Fab dyn, dywed wrth dŷ Israel, ‘Dyma a ddywedwch: “Y mae ein troseddau a'n pechodau yn fwrn arnom, ac yr ydym yn darfod o'u plegid; sut y byddwn fyw?’ ”

11. Dywed wrthynt, ‘Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond yn hytrach ei fod yn troi o'i ffordd ac yn byw. Trowch, trowch o'ch ffyrdd drwg! Pam y byddwch farw, O dŷ Israel?’

12. “Fab dyn, dywed wrth dy bobl, ‘Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.’

13. Os dywedaf wrth y cyfiawn y bydd yn sicr o fyw, ac yntau wedyn yn ymddiried yn ei gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, ni chofir yr un o'i weithredoedd cyfiawn; bydd farw am y drygioni a wnaeth.

14. Ac os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, ac yntau'n troi oddi wrth ei ddrygioni ac yn gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33