Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedda thywyllu ei sêr;cuddiaf yr haul â chwmwl,ac ni rydd y lloer ei goleuni.

8. Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben,ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,’ medd yr Arglwydd DDUW.

9. “ ‘Gofidiaf galon llawer o bobl pan af â thi i gaethglud ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod.

10. Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp.

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32