Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar y dydd cyntaf o'r deuddegfed mis yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;

2. “Fab dyn, cod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho,‘Yr wyt fel llew ymysg y cenhedloedd.Yr wyt fel draig yn y moroedd,yn ymdroelli yn d'afonydd,yn corddi dŵr â'th draed,ac yn maeddu ei ffrydiau.

3. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Â thyrfa fawr o bobl fe daflaf fy rhwyd drosot,ac fe'th godant i fyny ynddi.

4. Fe'th luchiaf ar y ddaear,a'th daflu ar y maes agored,a gwneud i holl adar y nefoedd ddisgyn arnat,a diwallu'r holl anifeiliaid gwylltion ohonot.

5. Gwasgaraf dy gnawd ar y mynyddoedd,a llenwi'r dyffrynnoedd â'th weddillion.

6. Mwydaf y ddaear hyd at y mynyddoeddâ'r gwaed fydd yn llifo ohonot,a bydd y cilfachau yn llawn ohono.

7. Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedda thywyllu ei sêr;cuddiaf yr haul â chwmwl,ac ni rydd y lloer ei goleuni.

8. Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben,ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,’ medd yr Arglwydd DDUW.

9. “ ‘Gofidiaf galon llawer o bobl pan af â thi i gaethglud ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod.

10. Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp.

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.

12. Gwnaf i'th finteioedd syrthio trwy gleddyfau'r rhai cryfion,y greulonaf o'r holl genhedloedd.Dymchwelant falchder yr Aifft,ac fe ddifethir ei holl finteioedd.

13. Dinistriaf ei holl wartheg o ymyl y dyfroedd;ni fydd traed dynol yn eu corddi mwyach,na charnau anifeiliaid yn eu maeddu.

14. Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw,a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,’ medd yr Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32