Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ni allai cedrwydd o ardd Duw gystadlu â hi,ac nid oedd y pinwydd yn cymharu o ran ceinciau;nid oedd y ffawydd yn debyg iddi o ran cangau,ac ni allai'r un goeden o ardd Duw gystadlu â hi o ran prydferthwch.

9. Gwneuthum hi'n brydferth â digon o ganghennau,nes bod holl goed Eden, gardd Duw, yn cenfigennu wrthi.

10. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddi dyfu'n uchel, gan godi ei phen yn uwch na'r cangau ac ymfalchïo yn ei huchder,

11. rhoddais hi yn llaw rheolwr y cenhedloedd, iddo wneud â hi yn ôl ei drygioni. Bwriais hi o'r neilltu.

12. Estroniaid, y greulonaf o'r cenhedloedd, a'i torrodd i lawr a'i gadael. Syrthiodd ei changhennau ar y mynyddoedd ac i'r holl ddyffrynnoedd; yr oedd ei changau wedi eu torri yn holl gilfachau'r tir; daeth holl genhedloedd y ddaear allan o'i chysgod a'i gadael.

13. Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.

14. Oherwydd hyn, nid yw'r holl goed eraill wrth y dyfroedd i dyfu'n uchel na chodi eu pennau'n uwch na'r cangau; nid ydynt, oherwydd bod digon o ddŵr, i sefyll mor uchel; y maent i gyd wedi eu tynghedu i farwolaeth yn y tir isod, gyda meidrolion, ymhlith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

15. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd yr aed â hi i lawr i Sheol, gorchuddiais y dyfnder â galar drosti; ateliais ei hafonydd a dal yn ôl ei digonedd o ddŵr. O'i herwydd hi gwisgais Lebanon â phrudd-der, a chrinodd holl goed y maes.

16. Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan sŵn ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.

17. Aethant hwythau hefyd gyda hi i lawr i Sheol at y rhai a laddwyd â'r cleddyf; gwasgarwyd y rhai oedd yn byw yn ei chysgod ymhlith y cenhedloedd.

18. Prun o goed Eden sy'n debyg i ti mewn gogoniant a mawredd? Ond fe'th ddygir dithau hefyd gyda choed Eden i'r tir isod, a byddi'n gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf. Dyna Pharo a'i holl finteioedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 31