Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, proffwyda, a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Galarwch, a dweud,“Och am y dydd!”

3. Oherwydd agos yw'r dydd,agos yw dydd yr ARGLWYDD—dydd o gymylau,dydd barn y cenhedloedd.

4. Daw cleddyf yn erbyn yr Aifft,a bydd gwewyr yn Ethiopiapan syrth lladdedigion yr Aifft,a chymerir ymaith ei chyfoetha malurio'i sylfeini.

5. “ ‘Bydd Ethiopia, Put, Lydia a holl Arabia, Libya, a phobl y wlad sydd mewn cynghrair â hwy, yn syrthio trwy'r cleddyf.

6. “ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio,a darostyngir ei grym balch;o Migdol i Aswanbyddant yn syrthio trwy'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.

7. ‘Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig,a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.

8. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan rof dân ar yr Aifft,a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.

9. Y diwrnod hwnnw fe â negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.

10. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhof ddiwedd ar finteioedd yr Aifft trwy law Nebuchadnesar brenin Babilon.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30