Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud:

17. “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

18. Os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y drygionus hwnnw farw am ei gamwedd, ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.

19. Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd yn marw am ei gamwedd, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

20. Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.

21. Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.”

22. Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, “Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno.”

23. Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb.

24. Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf gan ddweud, “Dos a chau arnat dy hun yn dy dŷ.

25. Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.

26. Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

27. Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’ Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 3