Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrôl hon, a dos a llefara wrth dŷ Israel.”

2. Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta,

3. a dweud wrthyf, “Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.” Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau.

4. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, dos yn awr at dŷ Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt.

5. Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 3