26. Aeth dy rwyfwyr â thi allani'r moroedd mawr,ond y mae gwynt y dwyrain wedi dy ddryllioyng nghanol y moroedd.
27. “ ‘Bydd dy gyfoeth, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy longwyr, dy seiri llongau, dy farchnatawyr, dy holl filwyr, a phawb arall sydd ar dy fwrdd yn suddo yng nghanol y môr y diwrnod y dryllir di.
28. “ ‘Pan glywir cri dy longwyr,bydd yr arfordir yn crynu.
29. Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,
30. yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.
31. Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.
32. Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?
33. Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddaugwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.
34. Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môryn nyfnder y dyfroedd;aeth dy nwyddau a'th holl fintaii lawr i'th ganlyn.