22. Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur.
23. Yr oedd Haran, Canne, Eden a marsiandïwyr Sheba, Asyria a Chilmad yn marchnata gyda thi.
24. Yn dy farchnadoedd yr oeddent yn marchnata gwisgoedd heirdd, brethynnau gleision, brodwaith, a charpedi amryliw mewn rheffynnau wedi eu troi a'u clymu.
25. Llongau Tarsis oedd yn cludo dy nwyddau.Llanwyd di â llwyth trwmyng nghanol y moroedd.
26. Aeth dy rwyfwyr â thi allani'r moroedd mawr,ond y mae gwynt y dwyrain wedi dy ddryllioyng nghanol y moroedd.
27. “ ‘Bydd dy gyfoeth, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy longwyr, dy seiri llongau, dy farchnatawyr, dy holl filwyr, a phawb arall sydd ar dy fwrdd yn suddo yng nghanol y môr y diwrnod y dryllir di.
28. “ ‘Pan glywir cri dy longwyr,bydd yr arfordir yn crynu.
29. Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,
30. yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.
31. Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.
32. Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?
33. Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddaugwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.
34. Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môryn nyfnder y dyfroedd;aeth dy nwyddau a'th holl fintaii lawr i'th ganlyn.
35. Brawychwyd holl drigolion yr ynysoedd o'th achos;y mae eu brenhinoedd yn crynu gan ofn,a phryder ar eu hwynebau.
36. Y mae marsiandïwyr y cenhedloedd wedi eu syfrdanu o'th blegid;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.” ’ ”