18. Am fod gennyt ddigon o nwyddau a chyfoeth, yr oedd Damascus yn marchnata gyda thi win o Helbon a gwlân o Sahar.
19. Yr oedd Dan a Jafan o Usal yn rhoi haearn gyr, casia a chalamus yn gyfnewid am nwyddau yn dy farchnad.
20. Yr oedd Dedan yn marchnata brethynnau ar gyfer dy gyfrwyau.
21. Yr oedd Arabia a holl dywysogion Cedar yn bargeinio â thi ac yn cyfnewid ŵyn, hyrddod a geifr.
22. Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur.
23. Yr oedd Haran, Canne, Eden a marsiandïwyr Sheba, Asyria a Chilmad yn marchnata gyda thi.
24. Yn dy farchnadoedd yr oeddent yn marchnata gwisgoedd heirdd, brethynnau gleision, brodwaith, a charpedi amryliw mewn rheffynnau wedi eu troi a'u clymu.
25. Llongau Tarsis oedd yn cludo dy nwyddau.Llanwyd di â llwyth trwmyng nghanol y moroedd.