10. Yr oedd gwŷr Persia, Lydia a Phutyn filwyr yn dy fyddin,yn crogi eu tarianau a'u helmedau ynot;ac yr oeddent yn dy wneud yn hardd.
11. Yr oedd gwŷr Arfad a Helech ar dy furiau o amgylch,a gwŷr Gammad yn dy dyrau;yr oeddent yn crogi eu tarianau ar dy furiau,ac yn gwneud dy brydferthwch yn berffaith.
12. “ ‘Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau.
13. Jafan, Tubal a Mesech oedd dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid caethweision a llestri pres yn dy farchnad.
14. Yr oedd rhai o Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod am dy nwyddau.
15. Yr oedd gwŷr Rhodos yn farsiandïwyr i ti, ac ynysoedd lawer yn marchnata gyda thi, ac yn rhoi'n dâl iti gyrn ifori ac eboni.
16. Yr oedd Aram yn marchnata gyda thi am fod gennyt ddigon o nwyddau, ac yn rhoi glasfeini, porffor, brodwaith, lliain, cwrel a gemau yn gyfnewid am dy nwyddau.
17. Yr oedd Jwda a gwlad Israel hefyd ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid gwenith o Minnith, ŷd, mêl, olew a balm yn dy farchnad.
18. Am fod gennyt ddigon o nwyddau a chyfoeth, yr oedd Damascus yn marchnata gyda thi win o Helbon a gwlân o Sahar.
19. Yr oedd Dan a Jafan o Usal yn rhoi haearn gyr, casia a chalamus yn gyfnewid am nwyddau yn dy farchnad.
20. Yr oedd Dedan yn marchnata brethynnau ar gyfer dy gyfrwyau.
21. Yr oedd Arabia a holl dywysogion Cedar yn bargeinio â thi ac yn cyfnewid ŵyn, hyrddod a geifr.
22. Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur.