Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, cod alarnad am Tyrus.

3. Dywed wrth Tyrus sydd wrth fynedfa'r môr, marsiandwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyt ti, O Tyrus, yn dweud,“Yr wyf fi'n berffaith mewn prydferthwch.”

4. Y mae dy derfynau yng nghanol y moroedd;gwnaeth dy adeiladwyr dy brydferthwch yn berffaith.

5. Gwnaethant dy holl waith coed o binwydd Senir,a chymryd cedrwydd Lebanon i wneud hwylbren iti.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27