Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 26:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.

10. Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.

11. Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.

12. Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y môr.

13. Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.

14. Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: ‘Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan sŵn dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn?

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 26