Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 25:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

8. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Moab a Seir ddweud, “Edrych, aeth tŷ Jwda fel yr holl genhedloedd”,

9. am hynny fe ddifethaf derfynau Moab, sef dinasoedd y gororau, Beth-jesimoth, Baal-meon a Ciriathaim, rhai gorau'r wlad.

10. Rhof Moab gyda'r Ammoniaid yn eiddo i bobl y dwyrain, fel na bydd i'r Ammoniaid gael eu cofio ymhlith y cenhedloedd,

11. a gweithredaf farn ar Moab. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

12. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Edom ddial ar dŷ Jwda, a bod yn euog iawn trwy wneud hynny,

13. am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn Edom, a thorri ymaith ohoni ddyn ac anifail, a'i gwneud yn anrhaith; o Teman hyd Dedan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf.

14. Byddaf yn dial ar Edom trwy fy mhobl Israel, ac fe wnânt ag Edom yn ôl fy nicter a'm llid. Yna byddant yn gwybod mai dyma fy nialedd, medd yr Arglwydd DDUW.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 25