Eseciel 24:21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
‘Dywed wrth dŷ Israel, “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn mynd i halogi fy nghysegr, yr hwn yr wyt yn ymfalchïo yn ei gadernid, ac sydd mor ddymunol a hoff yn dy olwg. Bydd y meibion a'r merched a adawyd yn syrthio trwy'r cleddyf.