Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:40-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Anfonasant hefyd negeswyr i gyrchu dynion o bell; a phan ddaethant, yr oeddit yn ymolchi, yn lliwio dy lygaid ac yn gwisgo dy dlysau.

41. Yr oeddit yn eistedd ar wely drudfawr, wedi gosod bwrdd o'i flaen a rhoi arno fy arogldarth a'm holew i.

42. Yr oedd sŵn tyrfa ddiofal o'i amgylch, ac fe ddygwyd y Sabeaid o'r anialwch yn ogystal â mintai o ddynion cyffredin; rhoesant freichledau ar freichiau'r merched a thorchau prydferth ar eu pennau.

43. Yna fe ddywedais am yr un oedd wedi diffygio gan buteindra, ‘Yn awr, bydded iddynt buteinio gyda hi, oherwydd putain ydyw.’

44. Aethant ati fel yr â dyn at butain; felly yr aethant at Ohola ac Oholiba, y merched anllad.

45. Ond bydd dynion cyfiawn yn eu cosbi â dedfryd puteiniaid ac â dedfryd rhai'n tywallt gwaed, oherwydd puteiniaid ydynt ac y mae gwaed ar eu dwylo.”

46. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Dewch â mintai yn eu herbyn i'w dychryn a'u hysbeilio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23