Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymerant hefyd dy dlysau prydferth.

27. Rhof derfyn ar dy anlladrwydd ac ar y puteindra a gychwynnodd yng ngwlad yr Aifft; ni fyddi'n edrych arnynt eto â blys, nac yn cofio'r Aifft mwyach.’

28. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am dy roi yn nwylo'r rhai a gasei, y rhai y troist mewn atgasedd oddi wrthynt.

29. Fe weithredant yn atgas tuag atat, a chymryd popeth y gweithiaist amdano; fe'th adawant yn llwm a noeth, a datguddir noethni dy buteindra. Dy anlladrwydd a'th buteindra

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23