Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Fab dyn, yr oedd unwaith ddwy wraig, merched yr un fam.

3. Aethant yn buteiniaid yn yr Aifft, gan ddechrau'n ifanc; yno y chwaraewyd â'u bronnau a gwasgu eu tethau morwynol.

4. Ohola oedd enw'r hynaf, ac Oholiba oedd ei chwaer; daethant yn eiddof fi, a ganwyd iddynt feibion a merched. Samaria yw Ohola a Jerwsalem yw Oholiba.

5. “Puteiniodd Ohola pan oedd yn eiddo i mi, a chwantu ei chariadon, yr Asyriaid, yn swyddogion

6. mewn lifrai glas, yn llywodraethwyr a chadfridogion—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt, ac yn marchogaeth ar geffylau.

7. Puteiniodd gyda'i dewis o holl wŷr yr Asyriaid, a'i halogi ei hun gydag eilunod y rhai a chwantai.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23