Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Fab dyn, yr oedd unwaith ddwy wraig, merched yr un fam.

3. Aethant yn buteiniaid yn yr Aifft, gan ddechrau'n ifanc; yno y chwaraewyd â'u bronnau a gwasgu eu tethau morwynol.

4. Ohola oedd enw'r hynaf, ac Oholiba oedd ei chwaer; daethant yn eiddof fi, a ganwyd iddynt feibion a merched. Samaria yw Ohola a Jerwsalem yw Oholiba.

5. “Puteiniodd Ohola pan oedd yn eiddo i mi, a chwantu ei chariadon, yr Asyriaid, yn swyddogion

6. mewn lifrai glas, yn llywodraethwyr a chadfridogion—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt, ac yn marchogaeth ar geffylau.

7. Puteiniodd gyda'i dewis o holl wŷr yr Asyriaid, a'i halogi ei hun gydag eilunod y rhai a chwantai.

8. Ni throes oddi wrth y puteindra a gychwynnodd yn yr Aifft, pan oedd hi'n ifanc a rhai'n gorwedd gyda hi ac yn gwasgu ei thethau morwynol ac yn tywallt eu chwant arni.

9. Am hynny, rhoddais hi yn nwylo ei chariadon, yn nwylo'r Asyriaid yr oedd yn eu chwantu.

10. Bu iddynt hwythau ei dinoethi, cymryd ei meibion a'i merched, a'i lladd hithau â'r cleddyf. Daeth yn enwog ymysg gwragedd, a rhoddwyd barn arni.

11. “Er i'w chwaer Oholiba weld hyn, eto aeth yn fwy llwgr na'i chwaer yn ei chwant a'i phuteindra.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23