Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.

17. Daeth y Babiloniaid ati i wely cariad a'i halogi â'u puteindra; wedi iddi gael ei halogi ganddynt, fe droes ymaith mewn atgasedd oddi wrthynt.

18. Pan wnaeth ei phuteindra'n amlwg a datguddio'i noethni, fe drois innau oddi wrthi, fel yr oeddwn wedi troi mewn atgasedd oddi wrth ei chwaer.

19. Ond fe wnaeth ragor o buteindra wrth iddi gofio am ddyddiau ei hieuenctid, pan oedd yn butain yng ngwlad yr Aifft.

20. Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd â'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.

21. Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae â'th fronnau ifainc yn yr Aifft.

22. “Felly, Oholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am gyffroi yn dy erbyn dy gariadon, y troist mewn atgasedd oddi wrthynt; dof â hwy yn dy erbyn o bob tu—

23. y Babiloniaid a'r holl Galdeaid, gwŷr Pecod, Soa a Coa, a'r holl Asyriaid, gwŷr ifainc dymunol pob un ohonynt, i gyd yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn benaethiaid a swyddogion ac yn marchogaeth ar geffylau.

24. Dônt yn dy erbyn o'r gogledd, â cherbydau, wageni a mintai o bobl, ac fe safant yn dy erbyn o bob tu gyda bwcled a tharian a chyda helmedau; rhof iddynt hawl i gosbi, ac fe'th gosbant yn ôl eu dedfryd eu hunain.

25. Trof f'eiddigedd yn dy erbyn, ac fe weithredant fy llid arnat; torrant ymaith dy drwyn a'th glustiau, a bydd y rhai a adewir ohonot yn syrthio trwy'r cleddyf; cymerant dy feibion a'th ferched, ac fe losgir y rhai a adewir â thân.

26. Tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymerant hefyd dy dlysau prydferth.

27. Rhof derfyn ar dy anlladrwydd ac ar y puteindra a gychwynnodd yng ngwlad yr Aifft; ni fyddi'n edrych arnynt eto â blys, nac yn cofio'r Aifft mwyach.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23