Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 23:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Chwantodd hithau'r Asyriaid, yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn swyddogion mewn lifrai glas a marchogion ar geffylau—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt.

13. Gwelais hithau hefyd yn ei halogi ei hun; yr un ffordd yr âi'r ddwy.

14. Ond fe wnaeth hi fwy o buteindra. Gwelodd ddynion wedi eu darlunio ar bared—lluniau o'r Caldeaid, wedi eu lliwio mewn coch,

15. yn gwisgo gwregys am eu canol a thwrbanau llaes am eu pennau, a phob un ohonynt yn ymddangos fel swyddog ac yn edrych yn debyg i'r Babiloniaid, brodorion gwlad Caldea.

16. Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.

17. Daeth y Babiloniaid ati i wely cariad a'i halogi â'u puteindra; wedi iddi gael ei halogi ganddynt, fe droes ymaith mewn atgasedd oddi wrthynt.

18. Pan wnaeth ei phuteindra'n amlwg a datguddio'i noethni, fe drois innau oddi wrthi, fel yr oeddwn wedi troi mewn atgasedd oddi wrth ei chwaer.

19. Ond fe wnaeth ragor o buteindra wrth iddi gofio am ddyddiau ei hieuenctid, pan oedd yn butain yng ngwlad yr Aifft.

20. Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd â'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.

21. Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae â'th fronnau ifainc yn yr Aifft.

22. “Felly, Oholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am gyffroi yn dy erbyn dy gariadon, y troist mewn atgasedd oddi wrthynt; dof â hwy yn dy erbyn o bob tu—

23. y Babiloniaid a'r holl Galdeaid, gwŷr Pecod, Soa a Coa, a'r holl Asyriaid, gwŷr ifainc dymunol pob un ohonynt, i gyd yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn benaethiaid a swyddogion ac yn marchogaeth ar geffylau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 23