10. Bu iddynt hwythau ei dinoethi, cymryd ei meibion a'i merched, a'i lladd hithau â'r cleddyf. Daeth yn enwog ymysg gwragedd, a rhoddwyd barn arni.
11. “Er i'w chwaer Oholiba weld hyn, eto aeth yn fwy llwgr na'i chwaer yn ei chwant a'i phuteindra.
12. Chwantodd hithau'r Asyriaid, yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn swyddogion mewn lifrai glas a marchogion ar geffylau—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt.
13. Gwelais hithau hefyd yn ei halogi ei hun; yr un ffordd yr âi'r ddwy.
14. Ond fe wnaeth hi fwy o buteindra. Gwelodd ddynion wedi eu darlunio ar bared—lluniau o'r Caldeaid, wedi eu lliwio mewn coch,
15. yn gwisgo gwregys am eu canol a thwrbanau llaes am eu pennau, a phob un ohonynt yn ymddangos fel swyddog ac yn edrych yn debyg i'r Babiloniaid, brodorion gwlad Caldea.
16. Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.
17. Daeth y Babiloniaid ati i wely cariad a'i halogi â'u puteindra; wedi iddi gael ei halogi ganddynt, fe droes ymaith mewn atgasedd oddi wrthynt.
18. Pan wnaeth ei phuteindra'n amlwg a datguddio'i noethni, fe drois innau oddi wrthi, fel yr oeddwn wedi troi mewn atgasedd oddi wrth ei chwaer.
19. Ond fe wnaeth ragor o buteindra wrth iddi gofio am ddyddiau ei hieuenctid, pan oedd yn butain yng ngwlad yr Aifft.
20. Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd â'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.
21. Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae â'th fronnau ifainc yn yr Aifft.
22. “Felly, Oholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am gyffroi yn dy erbyn dy gariadon, y troist mewn atgasedd oddi wrthynt; dof â hwy yn dy erbyn o bob tu—