Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:21-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.

22. Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd.

23. Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo.

24. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.

25. “A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol,

26. fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel.

27. Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.

28. “Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!

29. Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglŷn â thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol.

30. Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crëwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di.

31. Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.

32. Byddi'n gynnud i dân, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21